Mae sylfaenydd y We Fyd-Eang, Tim Berners-Lee wedi rhybuddio bod pŵer y rhyngrwyd yn cael ei “wyrdroi” a’i gamddefnyddio gan y rhai sy’n lledaenu casineb ac yn bygwth democratiaeth.

Mae’n dweud hyn wrth i’r dechnoleg gyrraedd ei phen-blwydd yn 50 oed. 

Mae Tim Berners-Lee yn annog llywodraethau, grwpiau ymgyrchu ac unigolion i gefnogi cynllun newydd i wneud y rhyngrwyd yn lle saff, teg a hygyrch i bawb.

“Mae’n rhyfeddol bod y rhyngrwyd eisoes yn hanner cant oed,” meddai’r gwyddonydd. “Ond nid yw ei ben-blwydd yn un hapus yn gyfan gwbwl.

“Mae’r rhyngrwyd – a’r We Fyd-Eang a l ddaeth yn ei sgil – wedi newid ein bywydau er gwell, ac mae ganddyn nhw’r pŵer i drawsnewid miliynau yn fwy o fyeydau yn y dyfodol.

“Ond yn gynyddol, rydyn ni’n gweld y pŵer er daioni yn cael ei wyrdroi, boed hynny gan sgamwyr, pobol sy’n lledaenu casineb, neu gan bobol freintiedig sy’n bygwth democratiaeth.” 

Cadarnhaodd y byddai Web Foundation, y grŵp a sefydlodd i ymgyrchu dros y we agored fel hawl gyhoeddus a sylfaenol, yn cyhoeddi ei Gytundeb ar gyfer y We y mis nesaf – casgliad o addewidion wedi’u hanelu at bob rhan o gymdeithas a’u hymrwymiad i amddiffyn y we yn y dyfodol.