Mae protestwyr yn Hong Kong wedi bod yn gwrthdaro â’r heddlu wrth i brotestiadau yn erbyn y llywodraeth barhau.

Fe fu’r protestwyr yn rhegi plismyn a’u galw’n “gangsters”, wrth iddyn nhw orfod defnyddio nwy ddagrau.

Dywed yr heddlu fod y brotest yn anghyfreithlon, ac fe gafodd y protestwyr orchymyn i adael.

Mae’r heddlu dan y lach ers tro am ymateb yn llawdrwm wrth i brotestwyr daflu  brics a bomiau tân atyn nhw.

Mae’r protestwyr yn dweud eu bod nhw hefyd yn cefnogi lleiafrifoedd ethnig sydd wedi cael eu gormesu, ar ôl i’r heddlu chwistrellu dŵr at fosg yr wythnos ddiwethaf.

Bu protestiadau ar y gweill ers pedwar mis.

Maen nhw wedi arwain at ddiddymu mesur estraddodi dadleuol.