Mae o leiaf ddeg o bobol wedi marw yn dilyn llifogydd yn Japan.

Daw’r newyddion diweddaraf yn dilyn sawl teiffŵn yn y wlad.

Daeth gweithwyr o hyd i gorff person a fu ar goll yn Chiba ar ôl bod yn gyrru yn yr ardal.

Mae person arall ar goll yn Fukushima, sy’n dal i deimlo effeithiau teiffŵn yno.

Bu farw naw o bobol i gyd yn Chiba, ac un yn Fukushima.

Mae oddeutu 4,700 o gartrefi heb ddŵr, ac mae cryn oedi i deithwyr ar drenau.

Mae tri chartref wedi’u dymchwel yn Chiba, gan ladd tri o bobol, ac fe gafodd dynes ei lladd yn Ichihara pan gwympodd ei chartref i’r llawr.

Mae pedwar o bobol wedi bodd yn Nagara a Chonan wrth i’w cerbydau fynd o dan ddŵr.

Bu farw dynes mewn parc yn ninas Soma yn Fukushima, ac mae teithiwr yn ei char ar goll o hyd.

Mae llywodraeth Japan wedi cynnal trafodaethau brys er mwyn cael ymateb i’r sefyllfa, ar ôl i werth mis o law gwympo mewn un diwrnod.