Mae’r heddlu yn Norwy yn saethu at ddyn arfog wedi iddo yrru ambiwlans i ganol torf o bobol ym mhrifddinas y wlad.

Yn ôl y darlledwr, NRK, cafodd saith o bobol eu hanafu, gan gynnwys baban, yn ystod y digwyddiad yn y rhan ogleddol o Oslo.

Ychwanega’r darlledwr fod yr heddlu yn chwilio am ddynes a allai fod â chysylltiad â’r digwyddiad, ond dyw’r awdurdodau ddim wedi cadarnhau’r adroddiad.

“Rydym wedi cael gafael ar yr ambiwlans a gafodd ei ddwyn,” meddai heddlu Oslo mewn datganiad.

“Cafodd gynau eu tanio er mwyn [atal y drwgweithredwr]. Dyw e ddim mewn cyflwr difrifol.”

Mae papur yr Afternposten, ar y llaw arall, wedi cyhoeddi llun sy’n dangos dyn – yn gwisgo trwsus gwyrdd – yn gorwedd gerllaw’r cerbyd gyda swyddogion yr heddlu o’i gwmpas.