Mae protestiadau yn Chile yn golygu bod milwyr ar strydoedd prifddinas y wlad am y tro cyntaf ers diwedd teyrnasiad yr arweinydd Augusto Pinochet yn 1990.

Mae’n rhan o argyfwng a gafodd ei gyhoeddi gan yr Arlywydd Sebastian Pinera mewn ymateb i brotestiadau gan fyfyrwyr yn erbyn prisiau trenau tanddaearol yn Santiago.

Maen nhw wedi rhoi sawl gorsaf ar dân ac wedi difrodi dwsinau yn rhagor.

Mae adroddiadau bod 156 o blismyn ac 11 o bobol gyffredin wedi cael eu hanafu, a bod mwy na 300 o bobol wedi cael eu harestio.

Bu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio nwy ddagrau i dawelu’r protestwyr.

Mae prisiau tocynnau wedi codi 4% i oddeutu 88c, a hynny o ganlyniad i brisiau tanwydd.

Mae’r protestiadau wedi hollti barn trigolion Santiago.