Mae Maer Barcelona yn galw am heddwch yn dilyn protestiadau gan gefnogwyr annibyniaeth Catalwnia yn y ddinas.
Dywed Ada Colau na all y sefyllfa bresennol barhau.
“Dydy Barcelona ddim yn haeddu hyn,” meddai wedyn.
Mae’n dweud bod y brotest ddiweddaraf neithiwr (nos Wener, Hydref 18) yn waeth na’r rhai blaenorol.
Daw’r protestiadau ar ôl i Uchel Lys Sbaen gyhoeddi’r dyfarniad yn erbyn arweinwyr Catalwnia ddechrau’r wythnos, gyda nifer ohonyn nhw’n cael dedfrydau hir o garchar.
Fe fu protestiadau bob nos ers hynny yn Barcelona a dinasoedd eraill.
Mae mwy na 400 o bobol wedi cael eu hanafu, yn ôl yr awdurdodau sy’n dweud bod dros eu hanner nhw’n blismyn.
Mae oddeutu 150 o bobol wedi cael eu harestio.