Mae’r brwydro’n parhau yn Syria rhwng Twrci a lluoedd Cwrdaidd er gwaetha’r cadoediad a gafodd ei gytuno rhwng Twrci a’r Unol Daleithiau.

Roedd bomiau a mwg i’w gweld yn nhref  Ras al-Ayn fore dydd Gwener (Hydref 18), ddiwrnod ar ôl i Dwrci gytuno ar y cadoediad a fydd yn para am bum niwrnod.

Mae’r cytundeb yn ddibynnol ar ymladdwyr Cwrdaidd yn symud o ran helaeth o diriogaeth Syria ar hyd y ffin a Thwrci.

Fe ddechreuodd y brwydro wythnos yn ôl, ddeuddydd ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump gyhoeddi ei fod yn tynnu lluoedd yr Unol Daleithiau o’r ardal ger y ffin.