Mae 315 o bobol wedi cael eu lladd hyd yn hyn wrth i’r llifogydd gwaethaf mewn hanner canrif fygwth prifddinas Thailand.

Mae’r cyhoedd wedi bod yn helpu’r milwyr i adeiladu amddiffynfeydd yng ngogledd Bangkok heddiw, mewn ymdrech i osgoi’r llif sy’n bygwth dod tuag at y ddinas o ganoldir y wlad.

Mae dau faes awyr pwysig y brifddinas eisoes wedi gorfod cymryd camau i ddiogelu eu hawyrennau, ac mae gweithwyr dros 200 o ffatrioedd yn ardal mwyaf diwydiannol y brifddinas, yng ngogledd Bangkok, wedi cael eu symud oddi yno wrth i’r dŵr ddechrau llifo i mewn.

Neithiwr, yn hwyr y nos, fe rybuddiodd llywodraethwr Bangkok bod angen dros filiwn o sachau tywod er mwyn gwarchod rhai o rannau gogleddol, mwyaf bregus y ddinas o naw miliwn o bobol.

Yn y cyfamser, mae’r llywodraeth wedi bod yn colli eu brwydr yn erbyn y llifogydd mewn cymunedau i’r gogledd o’r brifddinas, lle mae trigolion wedi eu caethiwo yn  eu tai.

Mae cyfnod y monsŵn wedi dechrau ers mis Gorffennaf, ac erbyn hyn mae’r glaw wedi boddi dwy ran o dair o’r wlad mewn hyd at chwe troedfedd o ddŵr, sy’n annhebygol o ddiflannu am wythnosau.