Mae cadeirydd y pwyllgor oedd yn ymchwilio i weithredoedd arlywydd America, wedi marw yn 68 oed.

Bu farw Elijah Cummings heddiw (dydd Iau, Hydref 17) oherwydd “problemau iechyd hirdymor”, yn ôl ei swyddfa.

Roedd Elijah Cummings wedi arwain sawl ymchwiliad i Donald Trump, ac wedi gwylltio’r arlywydd.

Yn un o’i ymddangosiadau cyhoeddus olaf cyn marw dywedodd fod yn rhaid i’r sawl sydd ar lefelau uchaf ein llywodraeth stopio ysgogi ofn, defnyddio iaith hiliol a chlodfori ymddygiad bygythiol”.