Mae daeargryn sy’n mesur 6.4 ar raddfa Richter wedi taro ardaloedd deheuol ynysoedd y Ffilipinas.

Fe darodd oddeutu bum milltir o’r brifddinas Columbio yn rhanbarth Mindanao.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fu farw unrhyw un na faint o ddifrod sydd wedi cael ei achosi, ond mae rhybudd i bobol gadw draw o’u cartrefi rhag ofn eu bod nhw wedi cael eu difrodi.

Mae lle i gredu bod ysgol ymhlith yr adeiladau sydd wedi’u heffeithio fwyaf, ond dydy hi ddim yn glir a oedd unrhyw un yn yr adeilad ar y pryd.

Mae daeargrynfeydd yn gyffredin iawn yn y Ffilipinas.

Bu farw bron i 2,000 o bobol mewn daeargryn oedd yn mesur 7.7 ar raddfa Richter yn 1990.