Fe ymunodd cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puidgemont, â dwsinau o brotestwyr ym Mrwsel ddoe (dydd Mawrth, Hydref 15) wrth iddyn nhw fynegi anfodlonrwydd ynglŷn â charcharu naw o gyn-arweinwyr y rhanbarth.

Dywedodd y gwleidydd, sydd ar hyn o bryd yn alltud yng Ngwlad Belg, fod “angen cefnogaeth holl ddemocratiaid Ewrop arnom ni.

“Mae’r argyfwng yn ymwneud â democratiaeth Ewropeaidd a safon democratiaeth Ewropeaidd,” meddai y tu allan i’r Comisiwn Ewropeaidd.

“Dyw hwn ddim yn fater Catalanaidd, rhanbarthol na Sbaenaidd.”

Galw am ddeialog gyda Sbaen

Mae barnwr yn Sbaen wedi cyhoeddi gorchymyn rhyngwladol i arestio Carles Puigdemont am ei ran yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i Gatalwnia yn 2017.

Ond mae’r cyn-Arlywydd a rhai gwleidyddion eraill sydd ar ffo yn galw ar sefydliadau rhyngwladol i’w helpu i greu deialog rhwng Llywodraeth Sbaen a’r awdurdodau yn Catalwnia.

Ddechrau’r wythnos, cafodd 12 o gyn-arweinwyr y rhanbarth, gan gynnwys y cyn-Arlywydd, Oriol Junqueras, eu dedfrydu gan y goruchaf lys yn Sbaen.

Cafodd naw o’r 12 eu hanfon i’r carchar am gyfnodau sy’n amrywio rhwng naw a 13 mlynedd.

Mae protestio chwyrn wedi bod ar strydoedd Catalwnia ers cyhoeddi’r dedfrydau.