Mae cyn-blismon yn Fort Worth wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, wedi iddo saethu’n farw ddynes groenddu trwy ffenest ei chartref yn Tacsas.

Fe gafodd Aaron Dean, 34, ei ddwyn i’r ddalfa neithiwr (nos Llun, Hydref 14) ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn ystod digwyddiad oedd yn ymwneud â drws ffrynt wedi’i adael yn agored.

Yn gynharach yn y dydd, roedd y plismon wedi ymddiswyddo o’r llu, cyn i’r pennaeth ei ddiswyddo.

Roedd camera yr oedd yn ei wisgo ar ei gorff yn dangos Aaron Dean yn ei ddangos yn dynesu at ddrws ty lle’r oedd Atatiana Jefferson, 28, yn edrych ar ôl ei nai wyth mlwydd oed yn gynnar ddydd Sadwrn diwethaf (Hydref 12).

Yn ôl y ffilm o’r camera, fe gerddodd Aaron Dean heibio i dalcen y ty, gwthio ei ffordd trwy giât i iard gefn, cyn tanio ei wn trwy’r ffenest eiliadau’n unig wedi gweiddi ar Atatiana Jefferson i roi ei dwylo yn yr awyr.