Mae glaw trwm a gwyntoedd cryf wedi taro Tokyo wrth i Japan baratoi ar gyfer y teiffŵn gwaethaf ers 60 mlynedd.

Wrth i Teiffŵn Hagibis ddynesu o’r Môr Tawel, mae dyn wedi cael ei ladd wrth i’w gar gael ei droi drosodd, a phump o bobl wedi cael eu hanafu wrth i gorwynt rwygo eu tŷ.

Mae’r glaw wedi achosi afonydd i chwyddo, ac mae ymchwydd o donnau ar hyd yr arfordir wedi creu llifogydd mewn amryw o drefi glan-môr. Mae’r awdurdodau’n rhybuddio hefyd am lithriadau mwd, sy’n gyffredin mewn ardaloedd mynyddig yn Japan.

Canslo gemau

Mae gemau cwpan rygbi’r byd, yn ogystal â gwasanaethau trenau ac awyrennau wedi cael eu canslo.

Mae pobl yn cael eu rhybuddio i aros yn eu tai, gyda 17,000 o blismyn a milwyr ar ddyletswydd yn barod ar gyfer cyrchoedd achub os bydd eu angen.

Mae teiffŵn Hagibis yn teithio i gyfeiriad Japan gyda gwyntoedd o hyd at 100 milltir yr awr ac mae disgwyl iddo gyrraedd y tir yn ystod y dydd.

Hwn yw’r teiffŵn cryfaf i daro Japan ers 1958, pryd y cafodd mwy na 1,200 eu lladd yn Tokyo, gyda llifogydd mewn hanner miliwn o dai.