Roedd dau Brydeiniwr ymhlith wyth o bobol gafodd eu lladd mewn damwain  awyren yn Botswana, yn ôl y Swyddfa Dramor.

Yn ôl adroddiadau, bu farw’r peilot, oedd yn dod o Brydain, ynghyd â saith o deithwyr eraill o Brydain, Ffrainc a Sweden. Roedd pedwar o bobol eraill, dau o Ffrainc a dau o Botswana, wedi goroesi’r ddamwain.

Roedd yr awyren fechan wedi mynd i drafferthion yn fuan ar ôl gadael maes awyr yng ngogledd Botswana yn yr Okavango Delta ddydd Gwener.