Mae arlywydd yr Wcrain, Volodymyr Zelenskiy, yn dweud nad oedd unrhyw gyfeiriad at flacmêl yn ystod ei alwad ffôn gydag arlywydd yr Unol Daleithiau sydd wedi tanio’r ymgyrch i uchel gyhuddo Donald Trump.

Dim ond ar ol yr alwad ar Orffennaf 25 eleni y daeth i wybod, meddai, fod America wedi neilltuo gwerth cannoedd o filiynau o bunnau o gymorth milwrol ar gyfer yr Wcrain.

“Wnaethon ni ddim trafod hynny yn ystod yr alwad,” meddai Volodymyr Zelenskiy. “Nid dyna oedd thema’r sgwrs.”

Ond fe wnaeth Donald Trump, yn ystod yr alwad, ofyn iddo ymchwilio i gefndir ei wrthwynebydd gwleidyddol, Joe Biden.

Mae’r Democratiaid yn y Gynghres yn credu bod Donald Trump yn dal ar y cymorth milwrol i’r Wcrain er mwyn ei gyfnewid am wybodaeth a allai wneud drwg i ymgyrch y blaid yn y ras am yr arlywyddiad yn 2020.