Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio yn Mecsico wedi i faer Las Margaritas cael ei glymu â tsiaen i gefn tryc a’i lusgo i lawr stryd y dref.

Mae erlynwyr yn nhalaith Chiapas yn dweud fod Jorge Luis Escandon Hernandez wedi cael ei anafu’n ddrwg. Maen nhw hefyd yn dweud i’r drwgweithredwyr achosi difrod i neuadd y dref.

Mae cyfryngau lleol yn adrodd fod pethau wedi mynd mor bell oherwydd i bobol leol gael eu siomi wedi i lywodraeth y dref fethu â delifro ar addewid i adeiladu lôn newydd yn eu hardal.

Mae fideo o’r digwyddiad yn dangos dynion yn hysio’r maer allan o neuadd y dref.