Mae byddin Twrci wedi dechrau ar ei chyrch yn erbyn ymladdwyr Cwrdaidd yng ngogledd-ddwyrain Syria.

Daw wedi i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, gyhoeddi ddydd Sul (Hydref 6) y bydd byddin ei wlad yn gadael yr ardal.

Roedd lluoedd yr Unol Daleithiau yn gynghreiriaid i’r Cwrdiaid yn Syria yn eu brwydr yn erbyn grŵp y Weriniaeth Islamaidd.

“Ein nod yw atal unrhyw ymgais i ffurfio coridor o frawychiaeth ar draws ein ffin ddeheuol, ac i ddod â heddwch i’r ardal,” meddai Arlywydd Erdogan.

Ychwanega fod y cyrch ar yr ymladdwyr Cwrdaidd yn ymgais i waredu Twrci o “fygythiad brawychol”.

Ar hyn o bryd, mae’r adroddiadau’n gymysg o ran ble mae awyrennau Twrci yn gollwng eu bomiau.