Mae Bernie Saunders yn bwriadu dal ati i ymgyrchu, er ei fod wedi caetl trawiad ar y galon.

Wrth siarad tu allan i’w dŷ yn Vermont ddydd Mawrth (Hydref 8) mae wedi cadarnhau nad yw’r bwriadu tynnu allan o’r ymgyrch arlywyddol.

Ond mae’n cydnabod fod cyflymder yr ymgyrchu wedi cyfrannu at ei broblemau iechyd.

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal pump neu chwe chyfarfod y dydd, tair neu bedair rali, a chyfarfodydd â grwpiau o bobol,” medda. “Dw i ddim yn meddwl fy mod am wneud hynny mwy.

“Yn bendant, dw i’n bwriadu ymgyrchu, ond bydd yn rhaid i ni newid natur yr ymgyrchu ychydig.”

Daw problemau iechyd Bernie Saunders ar adeg anodd iddo gan ei fod eisoes yn wynebu cwestiynau am fod yr ymgeisydd arlywyddol hynaf.