Mae ymgyrchwyr Extinction rebellion wedi rhwystro lonydd ledled dinasoedd Ewrop, gan alw ar arweinwyr i weithredu ar fater cynhesu byd-eang.

Yn ninas Berlin, bu i 1,000 o bobol rwstro’r Grosser Stern, sef cylch traffig yng nghanol parc Tiergarten cyn i gant o bobol rwystro Postdamer Platz gyda byrddau, cadeiriau a soffas.

Dechreuodd yr heddlu gario’r ymgyrchwyr i ffwrdd fesul un wedi iddyn nhw wrthod gadael.Wnaeth yr ymgyrchwyr ddim gwrthsefyll, a chafodd neb eu harestio.

Yn Llundain, roedd ymgyrchwyr yn martsio drwy ganol y ddinas wrth ddechrau pythefnos o brotestio gyda’r bwriad o greu anghyfleustra.

Dywed heddlu Llundain fod oddeutu 135 o ymgyrchwyr wedi eu harestio.