Mae un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc yn dweud bod nifer o wallau wedi cael eu gwneud cyn yr ymosodiad gan weithiwr yr heddlu yn Paris.

Cafodd yr ymosodwr, oedd yn gweithio i’r heddlu ym mhrifddinas Ffrainc, ei saethu’n farw ar ôl trywanu pedwar o bobol i farwolaeth.

Doedd dim awgrym fod y gweithiwr wedi cael ei radicaleiddio, meddai Christophe Castaner.

Ond mae’n debygol ei fod e wedi bod yn trafod yr ymosodiad gydag Islamyddion, meddai wedyn.

Mae lle i gredu bod ffrwgwd wedi bod yn dilyn trafodaeth am ymosodiad Charlie Hebdo yn 2015, ond nad oedd ei gydweithwyr am gymryd camau yn ei erbyn.

Mae Christophe Castaner yn wfftio’r alwad ar iddo ymddiswyddo yn dilyn y digwyddiad.