Mae pedwar o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn bar yn Kansas yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau bod yna berson arfog yn y bar yn ninas Kansas.

Cafodd pump o bobol eraill eu hanafu, ac maen nhw mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Does neb wedi cael ei arestio yn dilyn y digwyddiad, a dydy hi ddim yn glir a oedd mwy nag un person arfog na’r rhesymau am yr ymosodiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill.