Mae glaw trwm ar ddiwedd tymor y monsŵn wedi achosi marwolaethau o leiaf 59 o bobl mewn llifogydd yng ngogledd India dros yr wythnos ddiwethaf.

Disgynnodd 7 modfedd o law yn ninas Varanasi yn nhalaidd Uttar Pradesh dydd Iau a dydd Gwener, er bod disgwyl i’r glaw ostegu o ddydd Llun ymlaen.

Mae’r marwolaethau wedi cael eu hachosi gan dai yn dymchwel, mellt a boddi, gydag o leiaf bump o bobl wedi cael eu lladd gan frathiadau nadroedd mewn llifogydd.

Mae dros 350 o bobl wedi cael eu lladd dros dymor y monsŵn – sy’n digwydd o fis Mehefin tan fis Medi bob blwyddyn – yn India, Nepal a Bangladesh eleni.