Mae’r awdurdodau yn yr Almaen wedi canfod yr achos cyntaf o fosgito sydd fel arfer i’w gael yn Affrica, yn pigo rhywun a throsglwyddo feirws o’r enw West Nile.

Yn ôl Canolfan Meddygaeth Drofannol a Rheoli Afiechydon y wlad mae’r unigolyn gafodd ei bigo wedi gwella yn yr ysbyty.

Daw’r feirws o Affrica yn wreiddiol, ond mae wedi ei ledaenu tua’r gorllewin gan adar a mosgitos.

“Mae yn debyg bod yr hafau anarferol o braf tros y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd newid hinsawdd, wedi helpu’r feirws West Nile i fudo i’r gogledd o’r Alpau,” meddai Jonas Schmidt-Chanasit o’r Ganolfan Meddygaeth Drofannol.