Mae llys yn yr Almaen wedi dyfarnu bod modd dehongli effeithiau’r noson gynt fel “salwch”, mewn achos yn erbyn dosbarthwr diod sy’n cael ei ddiffinio fel “triniaeth i hangofer”.

Mae’r llys taleithiol yn Frankfurt wedi cyhoeddi ei ddyfarniad wrth gyhoeddi fod y sawl sydd wedi bod yn marchnata’r ddiod yn torri gwaharddiad sydd yn y gorffennol wedi dweud nad oes yr un bwyd na chynnyrch yn gallu rhwystro, trin na gwella pobol sy’n diodde’ o afiechyd neu salwch.

Mae banwyr yn dweud y dylai ’salwch’ gael ei ddiffinioyn y ffordd ehanga’ posib, wrth geisio edrych ar ól iechyd pobol. Mae’r term, medden nhw, yn cwmpasu “unrhyw beth sy’n amharu ar allu’r corff – dros dro neu thros gyfnod hir” – i weithredu’n normal.

Mae’r diffinad hwnnw, medden nhw wedyn, yn cynnwys cur pen a symtomau eraill a allai godi o ddefnyddio’r “sylwedd niweidiol”,  alcohol.