Mae 25 o bobol wedi cael eu lladd a 20 wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad bws ym Mhacistan.

Mae lle i gredu bod y bws wedi taro ochr bryn ar ôl i’w frêcs fethu.

Fe ddigwyddodd yn ardal Chilas, rhwng Skardu a Rawalpindi yng ngogledd-orllewin y wlad.

Yn ôl yr awdurdodau, maen nhw’n cael cryn drafferth achub pobol o ganlyniad i’r tirwedd a diffyg adnoddau.

Mae gwrthdrawiadau o’r fath yn gyffredin iawn yn y wlad.

Fis diwethaf, aeth bws oddi ar ffordd fynyddig yn yr un rhan o’r wlad, gan ladd 24 o bobol.