Fe fydd yr Unol Daleithiau’n anfon rhagor o filwyr ac offer i Saudi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Ond fyddan nhw ddim yn cynnal cyrchoedd ar Iran yn dilyn ymosodiadau ar ddiwydiant olew Saudi Arabia.

Ond mae swyddogion yn gwrthod wfftio’r posibilrwyd y gallai cyrchoedd o’r fath gael eu cynnal yn y dyfodol.

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf, a’r disgwyl yw y bydd cannoedd o filwyr Americanaidd yn mynd i gynnig cymorth.

Yn ôl yr Arlywydd Donald Trump, mae’n awyddus i osgoi rhyfel gydag Iran, gan amlinellu sancsiynau ar fanc canolog y wlad.

Dyma’r ail waith o fewn ychydig fisoedd iddo benderfynu peidio ag ymosod ar Iran, ar ôl gwneud tro pedol ar gyrchoedd ym mis Mehefin.

Dydy hi ddim yn gwbl glir eto mai Iran oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar Saudi Arabia, meddai’r awdurdodau, ond Iran oedd wedi cynhyrchu’r arfau a gafodd eu defnyddio.