Mae modd i bobol fod â gormodedd o alcohol yn eu afu, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n yfed o gwbwl.

Dyna sy’n cael ei awgrymu gan ganlyniadau ymchwil newydd i ficrobau’r coluddyn gan wyddonwyr o Tsieina.

Mae’r gwyddonwyr wedi darganfod cyswllt rhwng bacteria sy’n creu symiau mawr o alcohol yn y corff, a’r haint ddi-alcohol afu brasterog (NAFLD).

Ac mae’r ymchwil yn awgrymu bod y bacteria’n medru cynhyrchu lefel niweidiol o alcohol, gan achosi’r haint i ddatblygu.

Yn sgil eu gwaith, mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd modd datblygu ffyrdd gwell o adnabod yr haint yn y dyfodol.

Y microbau

“Cawsom ein synnu gan y ffaith bod y bacteria yn gallu cynhyrchu cymaint o alcohol,” meddai prif awdur yr ymchwil, Jing Yuan, o Sefydliad Pediatrig y Brifddinas, Beijing.

“Pan mae’r corff yn cael ei orlwytho a methu chwalu’r alcohol sy’n cael ei sy’n cael ei gynhyrchu gan y bacteria yma, rydych yn medru datblygu haint afu brasterog.

“Mae hynny’n wir hyd yn oed os dydych chi ddim yn yfed.”