Fe allai trydydd etholiad mewn blwyddyn gael ei gynnal yn Israel wedi i brif bleidiau’r wlad fethu â sicrhau mwyafrif digonol yn y senedd.

Mae disgwyl wythnosau o drafod ynglŷn â ffurfio llywodraeth glymbleidiol, ond mae’r amodau sy’n cael eu cyflwyno gan y gwahanol bleidiau yn debyg o wneud y dasg honno’n anos.

Yn dilyn etholiad yr wythnos hon, mae plaid ganolig y Blue and White wedi cipio 33 o seddi yn y senedd, tra bo Likud – plaid y prif weinidog, Benjamin Netanyahu – wedi cipio dim ond ond 31.

Er mwyn ffurfio llywodraeth, mae’n rhaid i’r ddwy blaid ddibynnu ar Avigdor Lieberman o’r blaid Yisrael Beitenu.

Ond fe allai hynny achosi problemau i blaid Benjamin Netanyahu a’i chynghreiriad asgell-dde a chrefyddol, gan fod Yisrael Beitenu yn awyddus i ffurfio llywodraeth glymbleidiol seciwlar.

Mae Benny Gantz o’r Blue and White, ar y llaw, yn addo peidio â chlymbleidio â Benjamin Netanyahu, sy’n wynebu cyfres o gyhuddiadau’n ymwneud â llygredd.