Mae o leiaf ddau o bobol wedi marw, ac mae 14 ar goll, ar ôl i gwch llawn ffoaduriaid sy’n gobeithio cyrraedd Ewrop fynd i drafferthion oddi ar arfordir Tiwnisia.

Mae awdurdodau wedi achub naw o bobol oddi ar y cwch, wedi adfer dau gorff, ac maen nhw’n dal i chwilio am 14 o deithwyr sydd ar goll ger dinas Sfax.

Mae patrolau gwylwyr y glannau y wlad wedi dal 192 o bobol ac wedi rhwystro deg o gychod dros y ddau ddiwrnod diwethaf. Roedd pawb a gafodd eu dal yn hanu o Tiwnisia, heblaw am dri a oedd yn dod o Irac.

Mewn man arall yn y Môr Canoldir, fe dynnodd llong achub 48 o bobol o gwch bren bach oddi ar arfordir Libya.