Mae Ric Ocasek, prif leisydd y band The Cars, wedi cael ei ganfod yn farw mewn fflat yn Manhattan, Efrog Newydd.

Mae’r band yn fwyaf adnabyddus am y caneuon ‘Drive’, ‘Just What I Needed’ a ‘Shake It Up’ yn y 1970au a’r 1980au.

Roedd e hefyd yn ganwr ar ei ben ei hun ac yn gynhyrchydd cerddoriaeth.

Cafwyd hyd i’w gorff ar ôl i’r heddlu ymateb i alwad frys.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y bu farw, ond mae’r heddlu’n dweud nad oes yna amgylchiadau amheus.

Mae Bryan Adams, y Red Hot Chilli Peppers, Billy Idol a Brandon Flowers ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo fe.

Daeth cadarnhad fis Mai y llynedd fod Ric Ocasek a’i wraig Paulina Porizkova wedi gwahanu ar ôl 28 o flynyddoedd.

Cafodd y band eu derbyn i’r Oriel Enwogion Roc a Rôl y llynedd, ar ôl ffurfio yn Boston yn 1976. Roedd Ric Ocasek yn un o’r aelodau gwreiddiol.