Mae disgwyl i arweinwyr Rwsia, Iran a Thwrci gyfarfod yn ninas Ankara heddiw (dydd Llun, Medi 16) er mwyn trafod y rhyfel cartref yn Syria.

Bwriad yr uwchgynhadledd yw dod â’r ymladd yng ngogledd-orllewin y wlad i ben, yn ogystal â cheisio sicrhau datrysiad gwleidyddol i’r rhyfel yn gyfan gwbl.

Ar frig yr agenda mae’r sefyllfa yn Idlib – yr ardal olaf yn Syria sy’n dal i fod ym meddiant gwrthryfelwyr – lle sicrhawyd cytundeb heddwch ar ddiwedd mis Awst yn dilyn cyrch pedwar mis gan gynghreiriaid y llywodraeth.

Er bod y cytundeb heddwch yn dal i sefyll ar hyn o bryd, mae yna rai eithriadau wedi bod.

Ac mae Twrci yn poeni y gall parhad yn y brwydro arwain at filoedd o bobol yn ffoi o Syria i Dwrci, sydd eisoes yn rhoi lloches i 3.6m o ffoaduriaid y wlad.

Mae Rwsia ac Iran yn cefnogi ochr llywodraeth Bashar Assad yn y rhyfel cartref, tra bo Twrci yn cefnogi’r gwrthryfelwyr sy’n ceisio disodli’r arlywydd.

Y cyfarfod yn Ankara yw’r pumed tro iddyn nhw gyfarfod er mwyn trafod y rhyfel.