Mae trigolion Tiwnisia yn pleidleisio yn etholiadau arlywyddol y wlad.

Byddan nhw’n dewis o blith 26 o ymgeiswyr.

Ymhlith y materion sy’n cael sylw ar hyn o bryd yn y wlad mae diweithdra, llygredd a’r economi.

Mae’r holl ymgeiswyr yn addo mynd i’r afael â’r economi ac i warchod y wlad rhag ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd.

Does neb yn ffefryn ar hyn o bryd, ond mae’r ymgeisydd oedd ar y blaen yn ôl y polau piniwn, Nabil Karoui, wedi’i garcharu ers mis diwethaf.

Mae’n dweud bod ei garcharu am wyngalchu arian yn dacteg i niweidio’i obeithion o ddod yn arlywydd.

Bu farw Beji Caid Essebsi, arlywydd democratiadd cynta’r wlad, ym mis Gorffennaf.