Mae llong sy’n cludo 82 o ffoaduriaid wedi cael yr hawl i aros yn nociau Lampedusa.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw’n golygu bod llywodraeth yr Eidal yn meddalu tuag at ffoaduriaid sy’n ceisio cyrraedd glannau Ewrop.

Fe fu llong yr Ocean Viking yn apelio am gymorth ers rhai diwrnodau.

Mae’n cael ei gweithredu gan ddau fudiad dyngarol, sydd wedi’u gwahardd yn y gorffennol rhag cludo ffoaduriaid i ddiogelwch gwledydd Ewrop.

Cafodd 50 o’r ffoaduriaid eu hachub ar Fedi 8, ac mae lle i gredu eu bod nhw wedi dod o Libya.

Cafodd 34 yn rhagor eu hachub y diwrnod canlynol.