Mae glaw trwm a thywydd garw wedi achosi marwolaethau tri o bobol yn ne-ddwyrain Sbaen.

Digwyddodd y farwolaeth ddiweddaraf wrth i  unigolyn fethu dianc o gar aeth i drafferth mewn llifogydd mewn twnnel yn ninas glan môr Alicante.

Yn ôl y sianel deledu Sbaenaidd TVE mi lwyddodd yr heddlu i achub dau arall oedd yn y cerbyd y bore yma.

Ddoe fe ddaeth yr awdurdodau o hyd i ddynes 51 oed a’i brawd 61 oed yn farw mewn car oedd wedi troi ac yn gorwedd ar ei do.

Mae’r awdurdodau wedi gofyn i drigolion osgoi gyrru ac mae ysgolion ar gau.