Mae o leiaf 50 o bobol wedi cael eu lladd wedi i drên wyro oddi ar gledrau yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (GDC).

Mae 23 arall wedi cael eu hanafu yn sgil y digwyddiad yn ardal Mayibaridi, yn nhalaith Tanganyika, ac mae ymdrech ar waith i achub y rheiny sydd yn sownd dan y trên.

Bellach mae Llywodraeth y wlad wedi anfon timoedd achub yno.

Does dim sicrwydd hyd yma ynglŷn â pham wyrodd y trên, ond mae trenau yn aml yn dod oddi ar gledrau yn y wlad hon oherwydd diffyg gwaith cynnal a chadw.

Mae gweithwyr rheilffordd genedlaethol y GDC yn honni iddyn nhw beidio â derbyn cyflogau llawn ers blynyddoedd.