Bydd yr Unol Daleithiau yn cyflwyno tariffau ar fewnforion o Tsieina bythefnos yn hwyrach na’r disgwyl.

Tsieina wnaeth alw am y gohiriad, meddai Donald Trump ar Twitter, gan fod “Gweriniaeth Pobol Tsieina yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 … ar Hydref 1”.

Ac yn ôl Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae’n arwydd o “ewyllys da”.

Mae Donald Trump wedi cyhoeddi a chyflwyno tariffau ar werth £445 biliwn o nwyddau o Tsieina – bron a bod yr holl nwyddau mae’r Unol Daleithiau yn prynu gan y wlad honno.

Mae tariffau o 25% eisoes wedi eu gosod ar werth £200 biliwn o nwyddau Tsieina, ac roedd disgwyl i hynny godi i 30% ar Hydref 1.

Yn sgil y penderfyniad, does dim disgwyl i’r cynnydd ddod i rym tan Hydref 15.