Arweinydd Hong Kong yn galwr ar brotestwyr i drafod

 

Carrie Lam

Llun: Comn Wicimedia

Mae arweinydd Hong Kong, Carrie Lam, wedi apelio eto ar brotestwyr o blaid democratiaeth i atal eu trais ac eistedd i lawr i drafod.

Addawodd y llywodraeth yr wythnos diwethaf i gael gwared ar fil estraddodi a sbardunodd dri mis o brotestiadau ond a fethodd â heddychu protestwyr, y mae eu gofynion hefyd yn cynnwys diwygiadau democrataidd ac atebolrwydd yr heddlu.

Fe wnaeth protestwyr fandaleiddio gorsafoedd isffordd, cynnau tanau stryd a rhwystro traffig, gan orfodi’r heddlu i danio nwy rhwygo dros y penwythnos.

Dywedodd Ms Lam y bydd cynnydd mewn trais, lle cafodd dros 150 o bobl gan gynnwys myfyrwyr eu dal mewn gwrthdaro ers dydd Gwener, ddyfnhau rhwygiadau ac ymestyn y ffordd i adferiad.

Dywedodd fod ei phenderfyniad i dynnu’r mesur estraddodi yn  ol yn adlewyrchu ei didwylledd i wella cymdeithas a dod â heddwch yn ôl.

“Rydyn ni’n paratoi i fynd i mewn i’r gymuned i gael y sgwrs honno’n uniongyrchol gyda’r bobl ond rwy’n apelio ymhellach yma, mai’r flaenoriaeth gyntaf er mwyn cyflawni’r amcan o ddod â heddwch a threfn i Hong Kong, yw i bob un ohonom, holl bobl Hong Kong, i ddweud na wrth drais,” meddai mewn cynhadledd newyddion.

Disgrifiodd y biliwnydd Li Ka Shing yr haf o aflonyddwch, mewn fideo a ddarlledwyd ar y teledu lleol, fel y trychineb gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd.

 

Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer