Mae pencampwr y byd Fformiwla Un saith gwaith drosodd Michael Schumacher yn cael ei drin â therapi bôn-gelloedd blaengar mewn ysbyty ym Mharis, yn ôl adroddiadau yn Ffrainc.

Dywedodd awdurdod ysbytai Paris, gan nodi rheolau preifatrwydd meddygol llym Ffrainc, na allai wneud sylw ar adroddiad yn Le Parisien bod Schumacher fod y cyn-yrrwr yn Ysbyty Georges-Pompidou ym mhrifddinas Ffrainc ers bore dydd Llun, ac mai’r bwriad yw iddo gael y driniaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 10).

Fe fu ond y dim i Michael Schumacher farw ar ol anafu’i ymennydd mewn damwain sgïo yn yr Alpau yn 2013.

Sefydlodd cyflwr Schumacher ar ôl iddo gael ei roi mewn coma dan gyffuriau. Ers mis Medi 2014, mae wedi derbyn gofal gartref ar lannau Llyn Genefa.