Mae Llynges Frenhinol Prydain wedi anfon meddygon a llong ychwanegol i’r Bahamas i helpu’r trigolion sydd wedi dioddef yn sgil Corwynt Dorian.

Fe fydd tîm o 18 o staff meddygol milwrol yn darparu gofal argyfwng, llawfeddyginiaeth a gofal dwys i’r rheini fydd ei angen.

Mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd yno heno ar fwrdd un o longau’r Llynges sy’n cludo bwyd, diod a dillad i’r ynysoedd.

Fe fydd llong arall, yr HMS Protector, sydd yn Bermuda ar hyn o bryd, yn hwylio i’r Bahamas ddydd Llun i ddarparu cymorth pellach.