Mae Robert Mugabe, cyn-Brif Weinidog a chyn-Arlywydd dadleuol Zimbabwe, wedi marw yn 95 oed.

Bu yn arwain ei wlad am ddegawdau treisgar wedi iddi sicrhau annibyniaeth o’r Ymerodraeth Brydeinig.

Ond yn ôl yr Arlywydd presennol, Emmerson Mnangagwa, roedd Robert Mugabe yn “ban-Affricanwr a roddodd ei fywyd i sicrhau rhyddid a grym i’w bobol”.

Ffigwr dadleuol

Cafodd Robert Mugabe ei eni yn Rhodesia, sef yr hen enw am Zimbabwe.

Yn 1963 roedd yn un o sylfaenwyr y grŵp cenedlaetholgar, African National Union (ZANU).

Daeth yn Brif Weinidog ar Weriniaeth Zimbabwe yn 1980, cyn dod yn Arlywydd ymhen rhai blynyddoedd.

Yn 2000, arweiniodd ymgyrch i wahardd ffermwyr gwyn o’u tir er mwyn trosglwyddo’r tir i ffermwyr duon – cam a arweiniodd at newyn difrifol.

Fe barhaodd Robert Mugabe i ddal ei afael mewn grym ar hyd y blynyddoedd trwy gyfrwng etholiadau dadleuol, ond fe gafodd ei orfodi i gamu o’r neilltu ym mis Tachwedd 2017, ac yntau’n 93 oed.

Ar y pryd, bu pobol yn dathlu ar strydoedd Harare, prifddinas Zimbabwe, wrth i’r newyddion am ei ymddiswyddiad ledu.