Mae Corwynt Dorian wedi lladd ugain o bobol yn y Bahamas, ac mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi.

Roedd 17 o’r bobol yn byw ar  ynysoedd Abaco, a’r tri arall o Grand Bahama, yn ôl yr awdurdodau.

Mae’r cynydd yn nifer y marwolaethau yn dod ar ôl i dimau chwilio ac achub deithio o gwmpas y ddwy ynys ar ôl i’r storm gilio, er mwyn chwilio’r rwbel a’r dinistr y mae wedi’i adael o’i ôl.