Mae’r heddlu yn Hong Kong wedi defnyddio nwy dagrau a canon dŵr i geisio rhwystro protestwyr o blaid democratiaeth.

Digwyddodd y brotest ddiweddaraf heddiw y tu allan i bencadlys y llywodraeth yno.

Fe ddefnyddiodd y protestwyr drawstiau laser i’w pwyntio tuag at yr heddlu ac ymddengys eu bod hefyd wedi taflu gwrthrychau dros rwystrau a osodwyd gan yr awdurdodau i’w cadw draw oddiar yr adeilad.

Fel ymateb, fe saethodd swyddogion nwy dagrau tuag at y protestwyr a hefyd canon dŵr.

Mae’r tensiynau i’w teimlo yn yr ardal wrth ymyl y rhwystrau.

Yn gynharach, roedd yr awdurdodau wedi gwrthod cais i gynnal yr orymdaith wrth ymyl swyddfa llywodraeth Tsieina i nodi pum mlynedd ers i Blaid Gomiwnyddol Tsieina benderfynu peidio cynnal etholiadau cwbwl ddemocrataidd yn Hong Kong.

Penderfynodd y protestwyr fynd ymlaen i gynnal protest ar y strydoedd er hynny – am yr 13fed penwythnos.

Dywedodd AS y Blaid Ddemocrataidd Lam Cheuk-ting y byddai dinasyddion Hong Kong yn parhau i frwydro am eu hawliau a’u rhyddid er gwaethaf bod nifer o bobol amlwg yn cynnwys  Joshua Wong a gwleidyddion wedi cael euj harestio.

Dechreuodd y protestiadau ar ôl y bil estraddodi sydd nawr wedi cael ei ddiddymu. Mae’r protestwyr eisiau iddo gael ei ddiddymu am byth ac i etholiadau democrataidd gael eu cynnal ac ymchwiliad i greulondeb honedig gan yr heddlu yn ystod protestiadau.