Mae Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, yn galw ar arweinwyr y G7 i weithredu er mwyn atal tanau mawr yr Amazon.

Mae hi’n cefnogi’r alwad gan Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, i drafod yr argyfwng yn ystod uwch-gynhadledd yn Biarritz y penwythnos hwn.

“Mae Emmanuel Macron yn iawn – mae ein cartref yn llosgi ac allwn ni ddim bod yn dawel,” meddai mewn neges fideo.

Mae Angela Merkel yn dweud bod arweinwyr gwledydd mwya’r byd wedi’u “siglo” gan y tanau, ac na fyddai cytundeb masnach arfaethedig rhwng yr Undeb Ewropeaidd a bloc masnach De America yn helpu i leihau’r difrod i fforest law Brazil.