Mae llywodraeth Brasil yn cwyno ei bod yn cael ei thargedu mewn ymdrech i bardduo ei henw, wrth i dân gynnau yn fforestydd yr Amazon.

Mae arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi disgrifio’r tanau fel “trychineb ryngwladol” gan ddweud y dylai gwledydd G7 gynnal trafodaethau brys yn eu cyfarfod yn Ffrainc benwythnos yma.

“Mae ein tŷ ni’n llosgi. Yn llythrennol. Mae coedwig law yr Amazon – yr ysgyfaint sy’n cynhyrchu 20% o ocsigen ein planed – ar dân,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd, Mina Andreeva, hefyd: “Mae’r comisiwn yn poeni’n fawr. Yr Amazon yw coedwig law fwyaf y byd ac mae’n cynnwys un rhan o 10 o holl rywogaethau’r byd.”

“Gwneud dim”

“Rwy’n gresynu bod Emmanuel Macron yn ceisio gwneud enillion gwleidyddol personol mewn mater sydd yn fewnol i Frasil a gwledydd eraill yr Amazon. Dydi’r tôn yma ddim yn gwneud dim i ddatrys y broblem,” meddai Jair Bolsonaro, arlywydd Brasil.

Yn gynharach hefyd fe ddywedodd Onyx Lorenzoni, pennaeth staff yr Arlywydd, fod gwledydd Ewrop yn gorliwio’r problemau amgylcheddol ym Mrasil er mwyn tarfu ar ei fuddiannau masnachol.

“Oes, mae datgoedwigo yn digwydd ym Mrasil, ond nid ar y gyfradd a’r lefel maen nhw’n ei ddweud,” meddai Mr Lorenzoni.

Daeth ei honiad diwrnod ar ôl i’r Almaen a Norwy benderfynu ddal yn ôl mwy na £49m mewn cronfeydd oedd wedi’u cadw ar gyfer prosiectau cynaliadwyedd yng nghoedwigoedd Brasil.

Daeth y ddadl wrth i arbenigwyr ffederal Brasil adrodd am y nifer uchaf erioed o danau gwyllt ledled y wlad eleni, i fyny 84% dros yr un cyfnod yn 2018.

Mae delweddau lloeren yn dangos mwg o’r Amazon yn cyrraedd cyfandir America Ladin i arfordir yr Iwerydd a Sao Paulo, dinas fwyaf Brasil, yn ôl Sefydliad Meteoroleg y Byd.