Mae byddin Syria, sy’n driw i’r arlywydd Bashar Assad, wedi meddiannu rhes o bentrefi yng nghefn gwlad rhanbarth Hama, gan gwblhau ei feddiant o’r rhanbarth sydd i’r de o dalaith Idlib.

Yn ôl cyfryngau lleol, mae’r lluoedd wedi meddiannu pentrefi Latmeen, Kfar Zeita a Lahaya, ynghyd â phentref Morek, lle mae gan wladwriaeth Twrci safle milwrol.

Dydi tynged milwyr Twrci sy’n staffio’r orsaf ddim yn glir eto.

Roedd milwyr Syria, gyda chefnogaeth awyrlu Rwsia, wedi gosod gwarchae ar bentrefi cafodd eu dal gan wrthryfelwyr yn nhalaith Hama yn gynharach wythnos yma.

Idlib, ger ffin Twrci, yw’r dalaith fawr olaf dan reolaeth gwrthryfelwyr yn Syria.

Mae byddin y llywodraeth yn yr ardal wedi lladd cannoedd ac wedi arwain at 450,000 o bobol yn cael eu hadleoli.