Mae Rwsia wedi anfon robot i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol fel rhan o arbrawf arbennig.

Ar hyn o bryd mae Rwsia yn defnyddio rocedi Soyuz-FG er mwyn saethu’i gofodwyr i’r gofod, ond mae cynllun ar droed i ddefnyddio roced newydd yn ei lle.

Mae Rwsia yn gobeithio defnyddio rocedi Soyuz 2.1a yn y dyfodol, ac un o’r rhain sydd wedi anfon y robot ar daith i’r orsaf ofod.

Hyd yma, does dim un person wedi cael ei anfon i’r gofod gan y roced newydd, ac mae’r robot wedi cael ei anfon fel rhan o arbrawf i wirio pa mor ddiogel mae’r ddyfais.

Mae gan y robot ‘Fedor’ freichiau, coesau a phen yn union yr un fath a bod dynol; ac roedd ganddo faner Rwsia yn ei law wrth eistedd yn sedd y roced.