Roedd Jeffrey Epstein wedi arwyddo ewyllys dim ond deuddydd cyn iddo ei ladd ei hun mewn carchar yn Efrog Newydd, yn ól dogfennau sydd wedi’u cyflwyno i lys.

Fe gyflawnodd y miliwnydd 66 oed hunanladdiad yn ei gell yn gynharach y mis hwn wrth iddo aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o fasnachu rhyw a thwyll ariannol. Roedd yn gwadu’r honiadau.

Mae’r dogfennau a gafodd eu ffeilio yn Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau yn nodi mai £475m oedd gwerth ei ystâd, a bod hynny’n cynnwys mwy na £46m mewn arian parod.

Roedd ganddo hefyd werth mwy na £92m o ecwiti, yn ôl yr ewyllys, a bron i £165m mewn buddsoddiadau ecwiti preifat.

Mae’r ewyllys, a gafodd ei ryddhau gyntaf ym mhapur y New York Post, yn codi cwestiynau ynglŷn â dyddiau olaf Jeffrey Epstein yn y carchar wrth iddo aros am achos llys ar fasnachu rhyw a chynllwynio ariannol.

Fe fydd cyfreithwyr sy’n cynrychioli menwyod sy’n honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol gan y dyn arian nawr yn edrych i frwydro yn y llys i gael iawndal.