Mae lluoedd arfog Israel wedi lladd tri o Balestiniaid ac wedi anafu un arall ger llain Gaza, yn ôl swyddfa Gweinidog Iechyd Palesteina.

Yn ôl lluoedd arfog Israel, fe saethodd dynion arfog o hofrennydd a thanc atyn nhw dros nos.

Fe fu cryn wrthdaro dros y dyddiau diwethaf, wrth i luoedd Palesteina saethu rocedi i mewn i Israel sawl gwaith.

Mae Israel wedi ymateb trwy daro targedau Hamas, gan roi’r bai arnyn nhw am yr holl ymosodiadau o Gaza.