Mae nifer o ffoaduriaid ar gwch Sbaenaidd sydd wedi cael ei atal rhag dod i’r lan yn yr Eidal wedi neidio i mewn i’r môr.

Mae fideo ar y we yn dangos pedwar o bobol mewn festiau diogelwch yn nofio tuag at y lan yn Lampedusa, ac fe fu’n rhaid i nifer o aelodau criw’r cwch nofio ar eu holau i’w hachub.

Mae lle i gredu bod 107 o bobol ar y cwch ar y pryd, a’i fod wedi bod yn y môr oddi ar Lampedusa ers rhai diwrnodau.

Roedd 40 o bobol eisoes wedi’u cludo i Lampedusa gan yr awdurdodau, a rhai ohonyn nhw’n dweud eu bod nhw’n sâl. Mae lle i gredu bod 27 ohonyn nhw’n blant.

Mae’r Eidal yn gwrthod derbyn ffoaduriaid oddi ar gychod, gan eu bod o’r farn bod y cychod yn helpu’r ymdrechion i smyglo pobol o Libya.

Ond mae Sbaen yn cynnig cymorth gan alw’r sefyllfa’n “argyfwng”, gan feirniadu ymateb yr Eidal.