Mae llong Sbaenaidd sydd â 147 o ffoaduriaid ar ei bwrdd, wedi angori ger ynys fach yn ne’r Eidal wrth i lywodraeth y wlad ddadlau dros eu ffawd.

Fe gyrhaeddodd y llong foroedd yr Eidal ar ôl i lys wrthod gwaharddiad ar groesau ffoaduriaid gan Weinidog Gartref yr Eidal, Matteo Salvini.

Mae Matteo Salvini wedi ymateb drwy gyhoeddi archddyfarniad newydd yn gwahardd y llong rhag docio ar ynys Lampedusa.

Ond mae’r Gweinidog Amddiffyn, Elisabetta Trenta, wedi gwrthod ei harwyddo, gan ddweud ei bod “yn gwrando ar ei chydwybod.”

Mae’r dadlau rhwng Matteo Salvini, sy’n erbyn croesawu ffoaduriaid, a Elisabetta Trenta yn enghraifft o’r tensiynau gwleidyddol cynyddol sydd wedi rhoi llywodraeth y Prif Weinidog Guiseppe Conte yn y fantol.

Dadl y Gweinidog Cartref yw bod yr Eidal eisoes wedi cymryd cannoedd ar filoedd o ffoaduriaid a achubwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’n mynnu y dylai gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd dderbyn y ffoaduriaid. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n ffoi rhag tlodi a ddim yn gymwys i gael statws ffoadur neu loches.